Matthew 18

Y pwysica yn Nheyrnas yr Un nefol

(Marc 9:33-37,42-48; Luc 9:46-48; 17:1-2)

1Bryd hynny daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo, “Pwy ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol?”

2Galwodd blentyn bach ato, a'i osod yn y canol o'u blaenau, 3ac yna dwedodd: “Credwch chi fi, os na newidiwch chi i fod fel plant bach, fyddwch chi byth yn un o'r rhai mae'r Un nefol yn teyrnasu yn eu bywydau. 4Felly, pwy bynnag sy'n ystyried ei hun yn fach, fel y plentyn yma, ydy'r pwysica yn nheyrnas yr Un nefol.

5“Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am ei fod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi. 6Ond pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well i'r person hwnnw gael maen melin wedi ei rwymo am ei wddf, ac iddo foddi yn eigion y môr.

7“Gwae'r sawl sy'n achosi i bobl eraill bechu! Mae temtasiynau yn siŵr o ddod, ond gwae'r sawl fydd yn gwneud y temtio! 8Os ydy dy law neu dy droed yn gwneud i ti bechu, torra hi i ffwrdd a'i thaflu ymaith. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd wedi dy anafu neu'n gloff, na bod â dwy law a dwy droed a chael dy daflu i'r tân tragwyddol! 9Ac os ydy dy lygad yn gwneud i ti bechu, tynna hi allan a'i thaflu i ffwrdd. Mae'n well i ti fynd i mewn i'r bywyd newydd gyda dim ond un llygad na bod dwy gen ti a chael dy daflu i dân uffern.

Stori am ddafad aeth ar goll

(Luc 15:3-7)

10“Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn edrych i lawr ar un o'r rhai bach yma. Wir i chi, mae'r angylion sy'n eu gwarchod nhw yn gallu mynd i bresenoldeb fy Nhad yn y nefoedd unrhyw bryd.
18:10 Mae rhai llawysgrifau yn ychwanegu adn.11, Dw i, Mab y dyn, wedi dod i achub y rhai sydd ar goll.

12“Beth ydych chi'n feddwl? Meddyliwch am ddyn a chant o ddefaid ganddo, a bod un ohonyn nhw'n crwydro i ffwrdd. Oni fyddai'n gadael y naw deg naw ar y bryniau ac yn mynd i chwilio am yr un sydd ar goll? 13Credwch chi fi, os daw o hyd iddi, mae'r un ddafad yna yn rhoi mwy o lawenydd iddo na'r naw deg naw wnaeth ddim mynd ar goll! 14Yr un fath, dydy'ch Tad yn y nefoedd ddim am i unrhyw un o'r rhai bach yma gael eu colli.

Delio gyda phechod yn yr eglwys

(Luc 17:3)

15“Os ydy crediniwr arall yn pechu yn dy erbyn, dos i siarad gydag e am y peth wyneb yn wyneb – paid dweud wrth neb arall. Os bydd yn gwrando arnat byddi wedi adfer y berthynas rhyngoch. 16Ond os fydd e ddim yn gwrando arnat, dos ag un neu ddau o bobl gyda ti, achos ‘rhaid cael dau neu dri tyst i gadarnhau fod rhywbeth yn wir.’ b 17Os bydd yn dal i wrthod gwrando, dos â'r mater o flaen yr eglwys. Ac os bydd hyd yn oed yn gwrthod gwrando ar yr eglwys, dylid ei drin fel pagan neu'r rhai sy'n casglu trethi i Rufain!

18“Credwch chi fi, bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu rhwystro ar y ddaear wedi eu rhwystro yn y nefoedd, a bydd pa bethau bynnag dych chi'n eu caniatáu ar y ddaear wedi eu caniatáu yn y nefoedd.

19“A pheth arall hefyd: Pan mae dau ohonoch chi ar y ddaear yn cytuno i ofyn am arweiniad wrth ddelio ag unrhyw fater, cewch hynny gan fy Nhad yn y nefoedd. 20Pan mae dau neu dri sy'n perthyn i mi wedi dod at ei gilydd, dw i yna gyda nhw.”

Stori y gwas cas

21Gofynnodd Pedr i Iesu, “Arglwydd, sawl gwaith ddylwn i faddau i frawd neu chwaer sy'n dal i bechu yn fy erbyn? Gymaint â saith gwaith?”

22Atebodd Iesu, “Na, wir i ti, dim saith gwaith, ond o leia saith deg saith gwaith!

23“Dyna sut mae'r Un nefol yn teyrnasu – mae fel brenin oedd wedi benthyg arian i'w swyddogion, ac am archwilio'r cyfrifon. 24Roedd newydd ddechrau ar y gwaith pan ddaethon nhw â dyn o'i flaen oedd mewn dyled o filiynau lawer iddo. 25Doedd y swyddog ddim yn gallu talu'r ddyled, felly gorchmynnodd y meistr i'r dyn a'i wraig a'i blant gael eu gwerthu yn gaethweision, a bod y cwbl o'i eiddo i gael ei werthu hefyd, i dalu'r ddyled.

26“Syrthiodd y dyn ar ei liniau o'i flaen, a phledio, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’ 27Roedd y brenin yn teimlo trueni drosto, felly canslodd y ddyled gyfan a gadael iddo fynd yn rhydd.

28“Ond pan aeth y dyn allan, daeth ar draws un o'i gydweithwyr oedd mewn dyled fechan iddo. Gafaelodd ynddo a dechrau ei dagu, gan ddweud ‘Pryd wyt ti'n mynd i dalu dy ddyled i mi?’

29“Dyma'r cydweithiwr yn syrthio ar ei liniau a chrefu, ‘Rho amser i mi, a tala i'r cwbl yn ôl i ti.’

30“Ond gwrthododd y dyn wrando arno. Yn lle hynny, aeth â'r mater at yr awdurdodau, a cafodd ei gydweithiwr ei daflu i'r carchar nes gallai dalu'r ddyled.

31“Roedd y gweision eraill wedi ypsetio'n fawr pan welon nhw beth ddigwyddodd, a dyma nhw'n mynd ac yn dweud y cwbl wrth y brenin.

32“Felly dyma'r brenin yn galw'r dyn yn ôl. ‘Y cnaf drwg!’ meddai wrtho, ‘wnes i ganslo dy ddyled di yn llwyr am i ti grefu mor daer o mlaen i. 33Ddylet ti ddim maddau i dy gydweithiwr fel gwnes i faddau i ti?’

34“Roedd y brenin yn gandryll, felly gorchmynnodd daflu'r swyddog i'r carchar i gael ei arteithio, nes iddo dalu'r cwbl o'r ddyled yn ôl.

35“Dyna sut fydd fy Nhad nefol yn delio gyda chi os na wnewch chi faddau'n llwyr i'ch gilydd.”

Copyright information for CYM